Darparu cartrefi cynhesach i denantiaid preifat yng Nghymru
Darparu cartrefi cynhesach i denantiaid preifat yng Nghymru 1.52 MB
Mae cartrefi oer a drafftiog yn golygu biliau uchel i denantiaid yng Nghymru ac yn peryglu eu hiechyd. Gyda phrisiau ynni yn dal i fod 50% yn uwch nag yn 2021, mae bron i hanner tenantiaid preifat (49%) yn cael trafferth talu eu biliau ynni, ac mae chwarter wedi dweud wrthym na allent wresogi eu cartrefi i dymheredd cyfforddus y gaeaf diwethaf.
Mae costau ynni hefyd yn cael eu cynyddu gan effeithlonrwydd ynni gwael. Mae bron i ddwy ran o dair (60%) o gartrefi rhent yng Nghymru â sgorau ynni gwael (EPC D neu is) ac mae’r rhai sydd ar EPC E, sef y safon isafswm presennol ar gyfer effeithlonrwydd ynni mewn cartrefi rhent, yn talu cyfartaledd o £317 yn fwy'r flwyddyn na’r rhai mewn cartrefi EPC C. Cynigiodd lywodraeth flaenorol y DU syniadau ar gyfer gwella’r safonau isafswm o ran effeithlonrwydd ynni (MEES) yn y sector rhentu preifat i EPC C am y tro cyntaf yn 2020 ac mae'r ymgynghoriad diweddar ar ddatblygu hyn ymhellach i'w groesawu. Ond 5 mlynedd yn ddiweddarach, mae tenantiaid preifat yn dal i aros am welliant.
Er mwyn gwneud cartrefi'n gynhesach ac yn fwy diogel i denantiaid preifat, mae'n hanfodol ein bod yn gweld newid yn y rheoliadau gan Lywodraeth y DU er mwyn bwrw ymlaen â chynlluniau i godi Safonau Gofynnol Effeithlonrwydd Ynni. Yn ogystal â hyn, mae angen gweithredu parhaus gan Lywodraeth Cymru i gefnogi tenantiaid a landlordiaid er mwyn galluogi newid ystyrlon yn y sector rhentu preifat a diogelu tenantiaid rhag canlyniadau anfwriadol newidiadau rheoleiddiol drwy'r canlynol:
Gwella gwybodaeth tenantiaid: Arwain ymgyrchoedd ymwybyddiaeth gyhoeddus er mwyn sicrhau bod tenantiaid preifat yn deall eu hawliau a’r cymorth sydd ar gael ar gyfer effeithlonrwydd ynni.
Cryfhau amddiffyniadau: Amddiffyn tenantiaid rhag cynnydd annheg mewn rhent neu droi allan sy’n gallu digwydd ar ôl gwelliannau effeithlonrwydd ynni.
Cyflymu ôl-osod cartrefi aneffeithlon yng Nghymru: Ehangu cyllid ar gyfer y cynllun Nyth er mwyn darparu cyngor dibynadwy a gwelliannau effeithlonrwydd ynni sydd wedi’u hariannu’n llawn ar gyfer aelwydydd incwm isel.