Cysylltu â ni
Mae yna lawer o ffyrdd i gysylltu â ni os na allwch chi ddod o hyd i'r cyngor sydd ei angen arnoch ar y wefan hon.
Os ydych yn Lloegr
Pwrpas y cynnwys ar y dudalen hon yw cysylltu â Chyngor ar Bopeth yng Nghymru.
Os ydych yn Lloegr, gallwch gael gwybod sut i gysylltu â Chyngor ar Bopeth yn Lloegr.
Os ydych yn gwneud cais newydd, gallwch gysylltu â’n gwasanaeth Help i Hawlio i gael cymorth gyda’r broses hawlio – o wneud cais i gael eich taliad cyntaf. Cael help i wneud cais am Gredyd Cynhwysol.
Os ydych eisoes yn cael Credyd Cynhwysol, arhoswch ar y dudalen hon i ddod o hyd i’ch Cyngor ar Bopeth agosaf neu siaradwch â ni ar-lein neu dros y ffôn.
Gallwch gysylltu â'n gwasanaeth defnyddwyr os oes gennych broblem defnyddiwr fel nwyddau sydd wedi torri neu’n ddiffygiol, neu broblemau gydag ynni, dŵr neu'r post.
Gall y gwasanaeth defnyddwyr roi cyngor i chi a throsglwyddo cwynion i Safonau Masnach.
Chwiliwch am eich Cyngor ar Bopeth agosaf
Teipiwch eich cod post neu dref i gael manylion cyswllt ar gyfer eich Cyngor ar Bopeth agosaf yng Nghymru a Lloegr.
Dim ond os ydych yn byw neu'n gweithio yn eu hardal y gall y rhan fwyaf o Gyngor ar Bopeth lleol eich helpu.
Siaradwch â ni ar-lein
Mae gwe-sgwrs yn galluogi chi i siarad â chynghorydd hyfforddedig ar-lein. Gallwch chi:
siarad â ni am broblem dyled - fel arfer gallwn helpu rhwng 9am ac 8pm o ddydd Llun i ddydd Gwener a rhwng 9.30am ac 1pm dydd Sadwrn
siarad â ni am math arall o broblem - fel arfer gallwn helpu rhwng 9am a 5pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener
Ffoniwch ein llinell ffôn genedlaethol
Gallwch gysylltu â chynghorydd drwy ein gwasanaeth ffôn cenedlaethol, Advicelink:
Advicelink: 0800 702 2020
Relay UK - os na allwch glywed neu siarad ar y ffôn, gallwch deipio'r hyn rydych am ei ddweud: 18001 ac yna 0800 144 8884
Gallwch ddefnyddio Relay UK trwy ap neu ffôn testun. Does dim tâl ychwanegol i'w ddefnyddio. Dysgwch sut i ddefnyddio Relay UK ar wefan Relay UK.
Mae Advicelink ar gael o 9am i 5pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener. Mae fel arfer ar ei brysuraf ar ddechrau a diwedd y dydd. Dyw’r gwasanaeth ddim ar gael ar wyliau banc.
Byddwn yn ateb eich galwad cyn gynted ag y gallwn - ar adegau prysur efallai y bydd angen i chi aros hyd at awr. Os bydd yr amser aros yn hir, byddwn yn dweud wrthych am ffyrdd eraill o gael cyngor. Gallwch hefyd geisio galw eto yn nes ymlaen. Os na allwn ateb eich galwad o fewn awr, bydd yr alwad yn cael ei datgysylltu.
Mae galwadau i Advicelink yn rhad ac am ddim o ffonau symudol a llinellau tir. Am ragor o wybodaeth am costau ein galwadau.
Rhoi adborth neu wneud cwyn
Gallwch roi adborth neu wneud cwyn am ein cyngor neu sut rydych chi wedi cael eich trin wedi i chi gysylltu â ni neu ymweld â'ch Cyngor ar Bopeth lleol.
Darllen ein polisi preifatrwydd
Deall sut rydym yn storio ac yn defnyddio’ch gwybodaeth bersonol pan fyddwch yn cysylltu â ni.
Darllen ein polisi ymddygiad
Mae gan ein staff yr hawl i wneud eu swydd heb gael eu trin yn wael - deall sut rydym yn delio ag ymddygiad annerbyniol.